Hafan > Ein Gwaith > Busnesau
Busnesau
Mae hybu’r Gymraeg ar strydoedd mawr Gwynedd, a chefnogi busnesau lleol yn ran creiddiol o waith Menter Iaith Gwynedd. Byddwn yn mynd ati i wireddu hyn trwy ymweld â pherchnogion busnesau er mwyn cynnig syniadau, adnoddau a gwybodaeth yn ogystal ag hyrwyddo busnesau ar ein cyfryngau cymdeithasol trwy gynllun ‘Hapus i Siarad’, sy’n gynllun cenedlaethol i hybu gwasanaeth Gymraeg o fewn busnesau.