Hafan > Cymunedau ac Ardaloedd > Dalgylch Bala a Phenllyn
Dalgylch Bala a Phenllyn
Mae’r ardal hon yn un o’n ardaloedd blaenoriaeth fel Menter, wedi cynnal gweithdy cymunedol yn Y Bala yn Mawrth 2024 a bydd hwnnw yn sail i’n cynlluniau yn yr ardal, hynny ar y cyd efo unigolion a mudiadau lleol.
Yn ardal blaenoriaeth oherwydd eu bod yn cynnwys rhai o ardaloedd mwyaf Cymraeg Gwynedd, mewnlifiad diweddar yn golygu bod tystiolaeth anecdotaidd bod defnydd y Gymraeg yn dirywio yn Y Bala a’r cyffiniau. Serch hynny rhai pethau yn gweithio yno, fel gweithgarwch cymunedol Cymraeg uwch na nifer o ardaloedd, felly angen dysgu o’r ardal yma hefyd i ddyblygu mewn ardaloedd eraill.
Cymunedau o fewn yr ardal
Frongoch, Glan yr Afon, Llandderfel, Llanfor, Llangower, Llanuwchllyn, Llanycil, Llidiardau, Parc, Rhosygwaliau, Rhyd Uchaf, Sarnau, Y Bala.
Swyddog yr ardal
Aros i benodi swyddog, yn y cyfamser e-bostiwch post@menteriaithgwynedd.llyw.cymru
Canlyniadau Cyfrifiad 2021 Dalgylch Bala/ Penllyn
Pobl 3+ oed sy’n gallu siarad Cymraeg: 73.1% (gostyngiad o 2.7% ers 2011)
Y newid mwyaf yn y 10 mlynedd rhwng 2011 a 2021 oedd gostyngiad sylweddol a welwyd yn nhref Y Bala, i lawr o 78.5 y cant yn 2011 i 72.5 y cant yn 2021. Mae plwyfi Llanuwchllyn a Llanycil gerllaw, fodd bynnag, wedi dal eu tir yn gadarn ar dros 80 y cant. Mae cadernid ieithyddol yr ardal ac arwyddocâd tu hwnt i’w ffiniau gan fod Penllyn yn gadarnle i'r Gymraeg yng nghanolbarth Cymru. Mae’r dref o fewn cyrraedd cymudo i swyddi yn y gogledd ddwyrain, sy’n gymorth i gynnal siaradwyr Cymraeg yn yr ardal ond hefyd yn denu pobl ddi-gymraeg i fyw a chymudo yn yr un modd.
Cynllun Menter Iaith Gwynedd yn Dalgylch Bala/ Penllyn: (PDF i ddod yn fuan)