Hafan > Amdanom
Amdanom
Cwmni nid er elw yw Menter Iaith Gwynedd wedi ei sefydlu yn haf 2023 i hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd. Mae’r fenter wedi egino o ‘Hunaniaith: Menter Iaith Gwynedd’, sef y fenter oedd yn bodoli cyn 2023 ac a oedd yn rhan o Gyngor Gwynedd.
Y Tîm
Mae gan Menter Iaith Gwynedd 4 aelod yn y tîm:
Iwan Hywel (Pwal)
Prif Swyddog y Fenter
Wedi ei fagu yn Llangernyw mae Iwan yn byw yn Tregarth gyda’i wraig a thri o blant. Ymunodd Iwan fel pen swyddog yn 2022, hynny yn dilyn sawl blwyddyn fel arweinydd tîm i Mentrau Iaith Cymru, cyn hynny bu’n gynghorydd gyrfa i Gyrfa Cymru.
Chwaraeon, yn enwedig rygbi a phêl-droed, a gwersylla ym Mhen Llŷn, yw ei hoff bethau.
Meirion Owen (Mei)
Swyddog Datblygu Menter Iaith Bangor
Mae Mei wedi bod yn gweithio i Menter Iaith Gwynedd, yn benodol i Menter Iaith Bangor sydd yn cynnwys ardaloedd Ogwen a Felinheli, ers mis Tachwedd 2020. Gweithiodd cyn hynny yn y maes iechyd a lles, yn gweithio efo bobl hyn yng Nghonwy, a chyn hynny yn athro cymwysedig i blant cynradd ardal Conwy.
Yn enedigol o Fangor mae Mei wedi dod yn ôl i hybu’r iaith yn y ddinas, meddai Mei: “mae’n dipyn o her gan fod hen arferion yn anodd i’w newid ond de ni yn gweld newid ble mae pobl efo agweddau mwy cadarnhaol at y Gymraeg”. Mae Mei yn mwynhau jocian a chael pobl i chwerthin, bod yn weithgar yn ei gymuned a bod yn dacsi dyddiol i’r plant!
Ifan Llewelyn Jones
Swyddog Datblygu Iaith
Mae Ifan wedi bod yn gweithio hefo Menter Iaith Gwynedd, a Hunaniaith cyn hynny, ers 2012. Cychwynnodd weithio ym maes hyrwyddo’r Gymraeg ugain mlynedd ynghynt, cyn symud i wahanol swyddi ym maes adfywio a datblygu cymunedol. Mae’n dod yn wreiddiol o Groesor a rŵan yn byw yng Nghaernarfon.
Pan fydd o ddim yn gweithio mae o’n hoffi treulio amser hefo’i bartner a’i deulu, coginio, mynydda a theithio yng Nghymru, yr Alban a thramor.
Swyddog Datblygu Iaith - Meirionnydd
Swyddog eto i’w phenodi / benodi.
Strwythur Rheoli
Mae gan Menter Iaith Gwynedd 4 cyfarwyddwr gwirfoddol sy’n rheoli’r cwmni:
Gareth Thomas
Caernarfon (Penrhyndeudraeth gynt).
Gareth yw cadeirydd cyntaf y fenter iaith newydd.
Ffiona Williams
Penrhyndeudraeth
Cyn ymddeol roedd Ffiona yn uwch reolwr yn Gyrfa Cymru.
Manon Cadwaladr
Caernarfon
Mae Manon yn un o gyfarwyddwyr cwmni cyfieithu Cymen ac ar hyn o bryd yn gadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Walis George
Llanrug
Cyn brif weithredwr Grŵp Cynefin, mae Walis yn gweithio rhan amser i gwmni cymunedol Ynni Ogwen.
Grŵp Arweiniol
Yn dilyn galwad gyhoeddus yn haf 2022 i wirfoddolwyr ddod ynghyd i gynllunio dyfodol y Fenter Iaith yng Ngwynedd ymunodd 11 o wirfoddolwyr gyda Grŵp Arweiniol newydd.
Roedd y cyfarwyddwyr uchod ymysg yr criw yma, bydd y Grŵp Arweiniol yn parhau i gyfarfod ambell waith y flwyddyn i fewnbynnu i weledigaeth a chynlluniau’r fenter.
Ein nod ydy ehangu’r grŵp yma a’i ddatblygu yn grŵp aelodau Menter Iaith Gwynedd a sicrhau cynrychiolaeth o bob ardal o Wynedd, gan ethol cyfarwyddwyr newydd o’r grŵp bob ychydig flynyddoedd.
Mae ein diolch yn fawr i’r criw roddodd eu hamser dros nifer helaeth o gyfarfodydd rhwng 2022-24 i sefydlu’r fenter newydd, aelodau grŵp ydy:
- Dafydd Iwan, Caeathro. Cyn gadeirydd grŵp strategol Hunaniaith fu’n gwthio’r weledigaeth o gael menter iaith annibynnol yng Ngwynedd.
- Huw Antur, Llanuwchllyn. Cyn gyfarwyddwr gwersyll Yr Urdd, Glan Llyn.
- Dr Lowri Hughes, Bangor. Pennaeth Polisi a Datblygu Canolfan Bedwyr.
- Mair Rowlands, Caernarfon. Yn un o’r criw wnaeth sefydlu Menter Iaith Bangor.
- Manon Elis- Williams, Rhosgadfan. Profiad helaeth o reoli yn y trydydd sector.
- Meleri Davies, Dyffryn Ogwen. Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen.
- Rhys Llewelyn, Pen Llŷn. Un o sylfaenwyr pared Dewi Sant Pwllheli.