Hafan > Dysgu ac Ymarfer Cymraeg

Dysgu ac Ymarfer Cymraeg

Adnoddau i Ddysgwyr a Siaradwyr Newydd

Sut Mae Mynd Ati i Ddysgu Cymraeg

Mae iaith yn fwy na dim ond geiriau. Mae’n ddealltwriaeth o ddiwylliant, hanes, hiwmor, cymuned, a’r syniad o le a pherthyn. Mae dysgu iaith newydd yn rhoi mynediad i fwy o bobl, mwy o gyfleoedd, a mwy o safbwyntiau, ac mae dysgu Cymraeg yn awr yn haws nag erioed.
 

Cyn i chi ddechrau, ystyriwch:

1 - Arddull ddysgu - Mae pawb yn dysgu mewn ffordd wahanol. Dewiswch ddull sy’n addas i chi.

2 - Ffordd o fyw - Sefydlwch gynllun dysgu sy’n cyd-fynd â’ch amser rhydd a’ch ffordd o fyw.

3 - Ffocws - Dechreuwch drwy ddysgu geiriau a brawddegau sy’n berthnasol i’ch bywyd, eich diddordebau, a’ch anghenion chi.

4 - Dechrau - Defnyddiwch eiriau a brawddegau newydd ar unwaith; does dim angen i chi fod yn rhugl i ddechrau siarad iaith. Dechreuwch gydag un gair ar y tro.

5 - Pam? - Gall rheswm clir a deniadol dros ddysgu ddarparu cymhelliant a phwrpas, gan gynnal eich cynnydd trwy gyfnodau mwy heriol.
 

Isod mae rhestr o wahanol ffynhonellau dysgu i’ch helpu ar ddechrau eich taith.

Cyfunwch rai o’r rhain i weld y cynnydd mwyaf yn eich dysgu.
 

  • Dysgu Cymraeg – Gwasanaeth sy’n cynnig amrywiaeth o wersi Cymraeg, ffurfiol.

  • Nant Gwrtheyrn – Canolfan sy’n cynnig gwersi Cymraeg a chyrsiau preswyl.

  • Say Something In Welsh – Gwefan sy’n cynnig adnoddau i ddysgu Cymraeg.

  • We learn Welsh - Gwefan sy’n cynnig adnoddau i ddysgu Cymraeg.

  • Doctor Cymraeg - Gwefan sy’n cynnig adnoddau i ddysgu Cymraeg.

  • Beth Yw'r Gair Cymraeg Am...? – Adnodd gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda geirfa Cymraeg.

  • Welsh Plus – Sianel Youtube sy’n dysgu sut i ynganu llythrennau a geiriau Cymraeg.

  • Helo Blod – Gwasanaeth cyfiaethu professiynnol am ddim.

  • Duolingo – ‘App’ poblogaidd sy’n cynnig gemau hwylus i ddysgu geirfa a gramadeg.

  • Gweithgareddau i Gefnogi Dysgwyr – Rhestr o wiethgareddau i ddysgwyr yng Ngwynedd.

  • Hwb Cymraeg Dwyfor – Tudalen sy’n hysbysebu cyfleon i ymarfer eich Cymraeg yn Nwyfor.

  • S4C – Sianel deledu gwbwl Gymraeg sy’n cynnig amrywiaeth o raglenni.

  • BBC Radio Cymru – Sianel Radio gwbwl Gymraeg sy’n cynnig rhagleni a cherddoriaeth amrywiol.

  • Spotify – ‘App’ cerddoriaeth poblogaidd gyda rhestrau chwarae amrywiol Cymraeg.

Dyma unigolion a theuluoedd o pob rhan o Wynedd sydd wedi dysgu Cymraeg.

Llongyfarchiadau anferthol i Carrie, Richard ac Anthea, Danielle, Sarah, Amy, Clare a’i theulu. Mae pob un ohonynt yn esiampl o’r hyn sy’n bosib.

Mae’r ffordd y mae nhw wedi dewis cymhathu i’r gymuned yma yng Ngwynedd yn wych. Mae un peth yn gyffredin ym mhrofiad pob un ohonynt; mi agorodd drysau a chyfleodd di-ri iddyn nhw wedi iddyn nhw ddysgu. Cafodd eu bywydau eu cyfoethogi mewn ffyrdd na wnaethon ddychmygu. Mae posib i unrhyw un ddysgu Cymraeg. Os oes awydd gen ti cysyllta â Dysgu Cymraeg.

Os wyt ti’n barod yn dysgu Cymraeg ac eisiau cyfle i ymarfer dy sgiliau, yn ogystal â dod i adnabod siaradwyr Cymraeg, mae yna lwyth o gyfleoedd yng Ngwynedd, dilyna Menter Iaith Gwynedd a Menter Iaith Bangor ar Facebook am y newyddion diweddaraf, neu e-bostia post@menteriaithgwynedd.cymru

Diolch yn fawr iawn i’r holl grwpiau ac unigolion sy’n cynnal digwyddiadau sy’n cynnig cyfleoedd i bobl ymarfer eu Cymraeg, os hoffet helpu yn un o’r digwyddiadau hyn neu os wyt efo diddordeb mewn dechrau grŵp yn dy ardal- cysyllta efo ni!

Dysgu a Mwynhau yn y Gymraeg – Carrie Rimmes

Stori Richard ac Anthea

Stori Danielle

Stori Sarah

Stori Amy

Teulu Rhydymain a’u profiad o’r ganolfan drochi


Cynllun 'Hapus i Siarad'

Mae prosiect “Hapus i Siarad” yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael sgwrs mewn busnes lleol sy’n hapus i siarad. Mae busnesau’n rhan bwysig o’n cymunedau a’n bywydau bob dydd ac felly’n lleoliadau gwych i siarad Cymraeg.

Mae busnesau lleol sy’n awyddus i fod yn rhan o’r cynllun wedi derbyn poster a syniadau am sut i annog pobl, yn enwedig dysgwyr, i siarad Cymraeg a magu hyder. Felly, cadwch lygaid ar agor am y posteri!

Mae nifer o fusnesau yn Y Bala, Bethesda, Caernarfon,  Y Felinheli, Dolgellau, Porthmadog, Nefyn a Phwllheli wedi cytuno i fod yn rhan o’r cynllun. Galwa i’w gweld, cei groeso a chyfle i ymarfer dy Gymraeg.

Awen Meirion
Y Drol Ffrwythau
Tŷ Coffi
Amdanat
Plas yn Dre 
Y Badell Aur    
Hoffi Coffi
Y Gwyniad    
Cigydd y Bala Butchers
Siop D.E.
Siop SO58
New Shop
Stori

Na-Nôg
Mirsi
Palas Print 
Lotti a Wren
Siop Vintage
Siop Iard    
Galeri
Manon
Becws Melys 
Caffi Maes
O Law i Law
Bar Bach
Blades

Londis
Siop Ogwen
Barbwr Ogwen
Caffi Seren
Neuadd Ogwen
Cosyn Cymru
Zip World Bethesda
Y Tarw

Yr Hen Bost
Cwrw Llŷn
Fferyllwyr Llŷn
Siop a Garej Morfa Nefyn
Tafarn yr Heliwr
Siop Spar Nefyn
Caffi’r Penwaig
Caffi Ni

Caffi Largo
Felin Fwyd
Oriel Pwlldefaid 
Pwyth Pistyll
Barbwr Llŷn 
Glasu
Becws Gwalia
Dewi Wyn Ffotograffydd
Neuadd Dwyfor  
Siop Foduro Sbardun    
Siop Tenovus 
Llen Llŷn
Bryan Williams y Gemydd
Siop Hosbis Dewi Sant
Salon Kar a Lyns
Becws Islyn
Cwmni Teithio Pwllheli
Whitehall

Anheddau
Fferyllfa Numark
Undeb Amaethwyr Cymru
Y Sospan
Siop Hughes
Medi
Torrent Walk Hotel
Gwin Dylanwad
Popty'r Dref
JP & Sons
Spa Harddwch Bombshell
EW Owen a'i Chwmni Cyfrifwyr
Eleanor Davies Optegwyr

Alton Murphy Optegwyr
Becws Newell's
Bocs Tegannu
Browsers Bookshop
Caffi Portmeirion
Cig Porthmadog
Dechrau Dâ
Lili Wen
Oriel Rob Piercy
Partiau Ceir Celtic
Rook a Thomas Optegwyr
Siop Anna
Siop Bragdy'r Mws Piws
Siop Eifionydd
Siop Ellis Barbwr
Siop Fawr
Siop Portmeirion
Siop Richards
Tŷ Martha
Woof 'n Roll
Y Blwch Tlws
Blas y Môr

Holl Lyfrgelloedd Cyngor Gwynedd
Tafarn y Plu, Llanystumdwy
Siop Spar Aberdaron
Siop Spar Abersoch
Llofft, Y Felinheli

Cyfleodd i Sgwrsio yn Gymraeg yn y Gymuned

Dyma’r cyfleodd sydd yna i ddysgwyr Cymraeg ymarfer eu sgiliau sgwrsio a dod i adnabod cymunedau Cymraeg eu hiaith ym mhob rhan o Wynedd.  Da ni’n gwybod nad ydi’r rhestr yn gyflawn, siŵr fod yna lawer sy’n mynd ymlaen na wyddwn ni amdano felly rhowch wybod am unrhyw weithgareddau eraill sydd heb eu cynnwys