Hafan > Cymunedau ac Ardaloedd > Dalgylch Pwllheli
Dalgylch Pwllheli
Mae’r ardal hon yn un o’n ardaloedd blaenoriaeth fel Menter. Cynhaliwyd gweithdy cymunedol yn Botwnnog ym Mawrth 2024 a bydd hwnnw yn sail i’n cynlluniau yn yr ardal, hynny ar y cyd efo unigolion a mudiadau lleol.
Dewis yr ardal fel un i flaenoriaethu oherwydd ymweliad yr Eisteddfod yn 2023 a cheisio creu gwaddol parhaol i’r bwrlwm hwnnw, ac oherwydd mewnlifiad diweddar yn golygu bod tystiolaeth anecdotaidd bod defnydd y Gymraeg yn dirywio.
Cymunedau o fewn yr ardal
Abererch, Afon Wen, Boduan, Chwilog, Efailnewydd, Llanaelhaearn, Llanarmon, Llangybi, Llannor, Llanystumdwy, Llithfaen, Pencaenewydd, Penrallt, Penrhos, Pentreuchaf, Pistyll, Pwllheli, Rhoslan, Rhydyclafdy, Trefor, Y Ffôr
Swyddog yr ardal
Manylion cyswllt: Ifan Jones - ifanllewelynjones@gwynedd.llyw.cymru
Canlyniadau Cyfrifiad 2021 Dalgylch Pwllheli
Pobl 3+ oed sy’n gallu siarad Cymraeg: 74.3% (gostyngiad o 2.9% ers 2011)