Hafan > Cymunedau ac Ardaloedd > Dalgylch Bangor

Dalgylch Bangor

Mae’r ardal hon yn un o’n ardaloedd blaenoriaeth fel Menter. Sefydlwyd Menter Iaith Bangor yn 2015, mae gan Menter Iaith Bangor eu pwyllgor rheoli eu hunain, mae Meirion Owen (Mei) yn gyflogedig gan Menter Iaith Gwynedd ond hefyd yn atebol i bwyllgor Menter Iaith Bangor. Mae Mei yn gweithio fel swyddog datblygu yn yr ardal ac yn gweithio yn Popdy, y ganolfan iaith a swyddfa, ar sydd ar lôn Popty yn y ddinas.

Cymunedau o fewn yr ardal

Bangor, Glasinfryn, Penrhosgarnedd, Pentir, Treborth, Y Felinheli

Swyddog yr ardal

Manylion cyswllt: Meirion Owen (Mei) - MeirionOwen@gwynedd.llyw.cymru

Canlyniadau Cyfrifiad 2021 Dalgylch Bangor

Pobl 3+ oed sy’n gallu siarad Cymraeg: 44.1% (Cynnydd o 2.1% ers 2011)

Roedd Cyfrifiad 2021 yn cael ei gynnal dan gyfnod clo, a felly mae’n debyg bod llai o fyfyrwyr ym Mangor ar y pryd, felly cafwyd gostyngiad o 1,200 ym mhoblogaeth dinas Bangor, ond yn sgil gostyngiad pellach o 330 yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae’r ganran sy’n gallu siarad yn y ddinas wedi aros yn weddol debyg ar *37.2% (*dinas Bangor ei hun)

Cafwyd cynnydd yn nifer y rhai sy’n gallu siarad Cymraeg yn Y Felinheli, o 64.3% yn 2011 i 68.3% yn 2021.

Gwefan Menter Iaith Bangor