Hafan > Polisi Diogelu

Polisi Diogelu

Pwrpas y datganiad polisi yw:

  • Gwarchod plant, pobl ifanc ac oedolion rhag niwed.
  • Rhoi i staff a gwirfoddolwyr yn ogystal â phlant, pobl ifanc ac oedolion yr egwyddorion sylfaenol sy’n llywio ein hagwedd at ddiogelu.

Mae’r polisi hwn yn gymwys i unrhyw un sy’n gweithio ar ran Menter Iaith Gwynedd gan gynnwys y Bwrdd Rheoli, Swyddogion, isgontractwyr a defnyddwyr

Fframwaith Cyfreithiol

Lluniwyd y polisi hwn ar sail deddfwriaeth, polisi a chanllawiau sy’n ceisio diogelu plant ac oedolion yng Nghymru.

Prif ffynonellau:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol Cymru 2020
  • Deddf Plant 1989

Dogfennau Ategol

Dylid darllen y datganiad polisi hwn ochr yn ochr â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ein sefydliad, a dogfennau perthynol eraill gan gynnwys: -

  • Disgrifiad o rôl y swyddog diogelu dynodedig
  • Ymdrin â datgeliadau a phryderon am blentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn
  • Rheoli honiadau yn erbyn staff
  • Cofnodi pryderon a rhannu gwybodaeth
  • Recriwtio mwy diogel
  • Canllawiau ar ffotograffiaeth a rhannu delweddau
  • Gwrth-fwlio
  • Rheoli cwynion
  • Chwythu’r chwiban
  • Iechyd a diogelwch
  • Hyfforddiant cynefino, goruchwylio a chefnogaeth

Yr ydym yn credu: -

  • Na ddylai plant, pobl ifanc nac oedolion fyth brofi camdriniaeth o unrhyw fath.
  • Fod gennym gyfrifoldeb i hyrwyddo lles pob plentyn, person ifanc ac oedolyn, i’w cadw’n ddiogel ac i weithio mewn ffordd sy’n eu gwarchod.

Yr ydym yn cydnabod fod: -

  • Lles plant yn flaenaf yn yr holl waith a wnawn a’r holl benderfyniadau a gymerwn.
  • Gan bob plentyn, person ifanc ac oedolyn waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol hawl cyfartal i gael eu gwarchod rhag pob math o gamdriniaeth a niwed.
  • Rhai pobl yn fwy bregus oherwydd effaith profiadau blaenorol, lefel eu dibyniaeth, anghenion cyfathrebu neu faterion eraill.
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda phlant, pobl ifanc, eu gofalwyr ac asiantaethau eraill yn hanfodol o ran hyrwyddo lles pobl.

Byddwn yn ceisio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel trwy wneud y canlynol:

  • Rhoi gwerth arnynt, gwrando arnynt a’u parchu
  • Penodi arweinydd a dirprwy diogelu enwebedig ac Aelod Bwrdd arweiniol sy’n gyfrifol am ddiogelu.
  • Mabwysiadu arferion gorau diogelu trwy ein polisi a’n gweithdrefnau cysylltiedig
  • Darparu rheolaeth effeithiol i’r staff trwy oruchwyliaeth, cefnogaeth, hyfforddi a mesurau sicrhau ansawdd fel bod yr holl staff yn gwybod am ein polisïau a’n gweithdrefnau ac yn eu dilyn yn hyderus.
  • Recriwtio a dewis staff yn ddiogel gan sicrhau y gwneir yr holl wiriadau
  • Gwenud ymholiadau DBS yn rheolaidd yn unol â Chanllawiau Cenedlaethol
  • Cofnodi, storio a defnyddio gwybodaeth yn broffesiynol a diogel yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau diogelu data.
  • Rhannu gwybodaeth am ddiogelu ac arferion da gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Gofalu fod plant, pobl ifanc ac oedolion yn gwybod lle i fynd am help os oes ganddynt bryder.
  • Defnyddio ein gweithdrefn diogelu i rannu pryderon a gwybodaeth berthnasol gydag asiantaethau sydd angen gwybod a dwyn i mewn blant, pobl ifanc, rhieni, teuluoedd a gofalwyr fel sy’n briodol.
  • Defnyddio ein gweithdrefnau i reoli unrhyw honiadau yn erbyn staff yn briodol.
  • Creu a chynnal amgylchedd gwrth-fwlio a sicrhau fod gennym bolisi a gweithdrefn i’n helpu i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw fwlio sydd yn digwydd.
  • Gofalu bod gennym fesurau cwynion a chwythu’r chwiban effeithiol.
  • Sicrhau amgylchedd ffisegol diogel trwy gymhwyso mesurau iechyd a diogelwch yn unol â’r gyfraith a chanllawiau rheolaethol.
  • Adeiladu diwylliant o ddiogelu lle mae staff, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn trin ei gilydd gyda pharch a lle maent yn gyfforddus ynghylch rhannu pryderon.

Manylion Cyswllt

Swyddog Diogelu Dynodedig:
Meirion Owen,Swyddog Datblygu Iaith
01248 370050
Meirion@menteriaithgwynedd.cymru

Dirprwy Swyddog Diogelu:
Iwan Hywel, Pen Swyddog,
Iwan@menteriaithgwynedd.cymru

Aelod Bwrdd Enwebedig:
Rhys Glyn
Rhysmglyn@gmail.com

Daeth y Polisi hwn i rym gyntaf ar y 5/12/2023

Yr ydym wedi ymrwymo i adolygu ein polisi a’n harferion da yn flynyddol.

Llofnodwyd (Gareth Thomas)
Cadeirydd Bwrdd Rheoli

Polisi Diogelu Menter Iaith Gwynedd (PDF)