Hafan > Cymunedau ac Ardaloedd > Gwynedd Gyfan
Gwynedd Gyfan
Gwynedd gyfan – Cyfrifiad 2021:
Yn dilyn y cyfrifiad yn 2021 gwelwn fod gostyngiad o 1% wedi bod yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd. Nododd cyfrifiad 2021 bod 73,560 o bobl Gwynedd sef 64.4% o’r boblogaeth yn gallu siarad y Gymraeg, gostyngiad felly o’r 77,000 oedd yn gallu yn 2011.
Mae Gwynedd wedi gweld lleihad yng nghanran ei siaradwyr Cymraeg yn y 5 cyfrifiad diwethaf. Nododd gyfrifiad 1981 fod 76.2% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, erbyn 2001 roedd y ffigwr wedi disgyn i 69%. Roedd gostyngiad mewn 3 o’r grwpiau oedran penodol, y ddau grŵp oedran hynaf sef 65-79 oed 80+, a’r grŵp oed ieuengaf 3-15 oed. Er hyn roedd cynnydd yn y grwpiau oedran eraill.
Grŵp oedran: 3-15 oed
2021: 86.2%
2001: 89.1%
+/- %: -2.9%
Grŵp oedran: 16-24 oed
2021: 60.2%
2001: 58.6%
+/- %: +1.6%
Grŵp oedran: 25-34 oed
2021: 69.1%
2001: 68.9%
+/- %: +0.2%
Grŵp oedran: 35-49 oed
2021: 66.9%
2001: 66.7%
+/- %: +0.2%
Grŵp oedran: 50-64oed
2021: 58.5%
2001: 57.9%
+/- %: +0.6%
Grŵp oedran: 65-79 oed
2021: 53.3%
2001: 56.6%
+/- %: -3.3%
Grŵp oedran: 80+ oed
2021: 58.3%
2001: 61.6%
+/- %: -3.3%
Pob oedran 3+ oed
2021: 64.4%
2001: 65.4%
+/- %: --1.0%