Hafan > Cymunedau ac Ardaloedd > Bro Ogwen

Bro Ogwen

Mae’r ardal hon yn un o’n ardaloedd blaenoriaeth fel Menter, mae Mei, o Menter Iaith Bangor, yn ymestyn ei ddalgylch gwaith i fyny i Ddyffryn Ogwen. Rydym wedi cynnal gweithdy cymunedol yn Bethesda yn Mawrth 2024 a bydd hwnnw yn sail i’n cynlluniau yn yr ardal, hynny ar y cyd efo unigolion a mudiadau lleol.

Cymunedau o fewn yr ardal

Abergwyngregyn, Bethesda, Llandygai, Llanllechid, Mynydd Llandygai, Talybont, Tregarth

Swyddog yr ardal

Manylion cyswllt: Mei Owen - MeirionOwen@gwynedd.llyw.cymru

Canlyniadau Cyfrifiad 2021 Bro Ogwen

Pobl 3+ oed sy’n gallu siarad Cymraeg: 70.4%  (gostyngiad o 2.2% ers 2011)

Cynllun Menter Iaith Gwynedd yn Bro Ogwen: (PDF i ddod yn fuan)