Hafan > Cymunedau ac Ardaloedd

Cymunedau ac Ardaloedd

Mae cefnogi cymunedau i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yng Ngwynedd yn flaenoriaeth i ni. Byddwn yn gwneud i hyn ddigwydd mewn sawl ffordd, ond y peth pwysicaf ydy y byddwn yn cefnogi pobl leol i sicrhau fod defnydd y Gymraeg yn cynyddu. Dim ond drwy gael pobl leol yn falch o’u Cymreictod, ac yn gwybod sut i rannu’r balchder hwnnw mewn ffyrdd cadarnhaol, y gallwn gynyddu defnydd y Gymraeg.

Er mwyn cynllunio ein gwaith rydym wedi rhannu Gwynedd i 13 o ardaloedd penodol. Mae’r ardaloedd yn fras yn dilyn dalgylchoedd ysgolion uwchradd y sir, ac eithrio Bangor, sydd efo dwy ysgol uwchradd. Dilynwn yr ardaloedd mae adran ymchwil Cyngor Gwynedd yn eu defnyddio, hynny er mwyn hwylustod ac er mwyn gallu dehongli data.

Drwy ddewis ardal cewch fanylion y plwyfi o fewn yr ardal, manylion cyswllt y swyddog sydd gennym yn gweithio yn yr ardal, unrhyw gynlluniau penodol sydd gennym yn yr ardal a manylion canlyniadau’r cyfrifiad yn 2021 o ran sgiliau yn y Gymraeg o fewn yr ardal. Nid yw Menter Iaith Gwynedd yn awgrymu fod canlyniadau cyfrifiad yn berffaith, ac yn benodol nid yw’n gofyn am ddefnydd iaith, ac i ni fel Menter dyna sy’n bwysig, ond dyma’r unig ffynhonnell ddata gynhwysfawr am niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Nid ydym ar unrhyw gyfrif yn awgrymu dylai pobl aros o fewn yr ardaloedd hyn! A bydd rhai yn sicr yn teimlo nad yw eu pentref neu blwyf yn perthyn i ardal ‘gywir’ o fewn y rhestr ardaloedd, dim ond ffordd o rannu ardal eang yn llai i ni fedru canolbwyntio ein hymdrechion wrth ddehongli a gweithredu yn lleol ydy hyn. 

plant yn gwneud pyramid