Hafan > Ein Gwaith
Chwaraeon
Cadw’r Gymraeg yn ein Clybiau Chwaraeon
Mae clybiau chwaraeon yn hollbwysig i’r Gymraeg yma yng Ngwynedd, ac yn guriad calon i nifer o gymunedau ar draws y sir. Fel yr oedd pobl yn arfer ymgynnull yn y capeli, heddiw clybiau chwaraeon ydy un o’r prif lefydd y mae pobl yn dod at ei gilydd yn gyson i gymdeithasu yn Gymraeg.
Tra bod y Gymraeg wedi bod yn greiddiol i ddiwylliant sawl clwb ers degawdau, ac er bod enghreifftiau o arferion gwych yn dal i fodoli, rydym yn gweld ac yn clywed yn gynyddol bod dirywiad cyffredinol yn y defnydd o’r iaith mewn clybiau ar lawr gwlad ledled Gwynedd, a bod hyn yn achos pryder.
Dyma felly yw’r amser i fod yn rhagweithiol, a sicrhau cadernid iaith, gan hybu defnydd cyson a naturiol o’r Gymraeg o fewn ein clybiau chwaraeon, er mwyn gwarchod y Gymraeg yn ein clybiau a’n cymunedau heddiw ac i’r dyfodol.
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda chynrychiolaeth o glybiau chwaraeon amrywiol o bob cwr o’r sir, mae Menter Iaith Gwynedd wedi paratoi pecyn er mwyn mynd i’r afael â’r prif heriau cyffredin, o groesawu aelodau di-Gymraeg heb orfod newid iaith cyfarfodydd ac iaith y stafell newid, i gynnal sesiynau hyfforddi Cymraeg pan bod prinder hyfforddwyr sy’n medru’r Gymraeg. Mae’r pecyn yn rhannu arfer da gan glybiau’r sir a thu hwnt, ac yn cynnwys atebion syml ac ymarferol, yn ogystal â chanllawiau ac adnoddau defnyddio
Lawrlwythwch y pecyn isod.
Cymraeg - Pecyn Clybiau Chwaraeon (PDF)
Saesneg - Sports Clubs Pack (PDF)